
Neges gan George o Natural Distinction
Mae Café Notos yn enghraifft berffaith o fusnes sydd â chynaladwyedd wrth wraidd eu gwaith ac sy’n gyson yn edrych i leihau eu “footprint” amgylcheddol a chyfrannu at well dyfodol i bobl a’r blaned. Ers sefydlu Cafe Notos rydym wedi gweithio gyda Becky a’i thîm gwych i ddod o hyd i gyflenwyr lleol fel Pentrefelin Dairy sy’n rhannu gwerthoedd cynaliadwyedd Notos, yn ogystal â gweithio i weithredu atebion pecynnu sy’n lleihau faint o wastraff sy’n cyrraedd safleoedd tirlenwi.
Yn ogystal â’r ymdrechion amgylcheddol bob dydd, rydym hefyd wedi arwain Notos i ddod yn aelod busnes llawn o’r rhaglen 1% for the Planet. Mae hyn yn golygu bod 1% o bob gwerthiant a wneir yn y caffi yn mynd i bartner amgylcheddol cymeradwy ac yn 2024 y partneriaid hynny oedd Tir Natur, Protect the West Coast, a Protect Our Winters UK. Rydym hefyd wedi cynnal digwyddiadau gan gynnwys Nosweithiau’r Ddaear a Glanhau Traethau gyda phartneriaid lleol fel Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru i rymuso gweithredu cymunedol dros y blaned.
Rydym yn falch o barhau i weithio gyda Notos ar eu holl ymdrechion cynaladwyedd ac yn gyffrous i barhau i ddatblygu’r ymrwymiad i greu cymaint o effaith gadarnhaol ag y gallwn ar bobl a’r blaned.
Llaeth lleol o Laethdy Pentrefelin
Rydym yn cael ein holl laeth o Bentrefelin , fferm laeth annibynnol yn Ninbych sy’n poeni’n fawr am les anifeiliaid a gofalu am yr amgylchedd lleol. Mae eu buchod yn cael eu bwydo ar borfa, ac yn wahanol i ffermydd diwydiannol, mae lloi yn aros gyda’u mamau yn ystod y broses odro. Mae ein llaeth yn cyrraedd mewn poteli gwydr 1 litr yr ydym yn eu dychwelyd i Bentrefelin i’w glanhau a’u hailddefnyddio, sy’n golygu nad oes unrhyw wastraff plastig o gwbl.

Cynnyrch o ffynonellau cyfrifol
Fel caffi-deli, mae llawer o’n heffaith yn dod o’r bwyd a’r ddiod rydyn ni’n eu gweini a sut rydyn ni’n dewis ei gaffael. Rydyn ni’n dewis ein holl gyflenwyr â llaw am eu hansawdd rhagorol a’u hymrwymiad i ofalu am ein planed. Gallwn ddweud yn ddiogel ein bod ni’n falch o bob cynhwysyn ar eich plât ac yn eich cwpan.
Drwy weithio gyda chyflenwyr lleol, rydym hefyd yn lleihau allyriadau CO2 sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth ac yn cadw effeithiau eraill, fel gwastraff plastig, i’r lleiafswm llwyr. Dyna sut rydym yn gweini bwyd sy’n well i chi ac yn well i’r byd o’n cwmpas.

Cynhyrchion a nwyddau cynaliadwy
Ochr yn ochr â’n caffi-deli, mae gennym ni hefyd ofod manwerthu bach sy’n cynnwys cynhyrchion gan fusnesau lleol sy’n adlewyrchu pwy ydym ni. Mae pob eitem rydyn ni’n ei stocio wedi’i dewis gyda chynaladwyedd mewn golwg.
Fe welwch chi hefyd ein hamrywiaeth ein hunain o nwyddau yma, gan gynnwys crysau-t a bagiau tote wedi’u gwneud o ddeunyddiau ecogyfeillgar. Nhw yw’r ffordd berffaith o ddangos eich cefnogaeth i ddewisiadau cynaliadwy a mynd ag ychydig o’n hethos adref gyda chi.

Pecynnu ecogyfeillgar
Ar gyfer ein holl fwyd a diodydd tecawê, rydym yn defnyddio deunydd pacio sy’n dod o ffynonellau cynaliadwy ac sy’n gwbl gompostiadwy. Rydym wedi dewis Decent Packaging, sefydliad ardystiedig Carbon Sero sy’n cynhyrchu eu holl ddeunydd pacio o ddeunyddiau sy’n seiliedig ar blanhigion. Mae hynny’n golygu, unwaith y byddwch wedi gorffen, nad ydym ar ôl gyda rhywbeth a fydd yn niweidio’r amgylchedd am flynyddoedd i ddod.

Mynd y tu hwnt
Rydym yn defnyddio’r un meddwl cynaliadwy ym mhopeth a ddefnyddiwn wrth redeg y caffi. Un peth yr ydym yn arbennig o falch ohono yw dewis cynhyrchion glanhau Môr Eco. Maent yn ein helpu i leihau allyriadau carbon, dileu gwastraff plastig diangen a chefnogi busnes Cymreig sy’n gwneud pethau gwych dros y blaned. Mae eu cynhyrchion glanhau yn genhedlaeth newydd o fio-lanhawyr ac yn cynnig canlyniadau gwych yn ogystal â bod yn ddiwenwyn i fodau dynol ac i fywyd dyfrol (ie!).
